CROESO I WEFAN OCTAGON....

..lle cynigir gwasanaeth cynhyrchu, recordio a chymysgu o’r radd flaenaf.
STIWDIO
Profiad recordio mewn stiwdio broffesiynnol o dan ofal y cynhyrchydd a’r peirianydd Steffan Rhys Thomas. Lleolir stiwdio Octagon mewn adeilad preifat a chyfleus i’r M4 sy’n cynnig cyfleusterau niferus i’w gwsmeriaid. Mae ein System Pro Tools HD yn ein galluogi i weithio’n gyflym ar eich cywaith ac mae ein cyfrifiadur Apple G5 yn sicrhau fod popeth yn cyd rhedeg yn esmwyth, gan gadw ansawdd y recordiad yn uchel. Defnyddir offer ychwanegol sy’n cynnwys - Offer allanol, SSL, Focusrite, Universal Audio, Joe Meek. Microffonau- Neumann, Shure, Audix, Electrovoice, SE a AKG. O fewn i’n ystafell berfformio ceir piano Yamaha C3, bwth recordio a lle digonol i gôr!
STEFFAN
Cynhyrchydd egniol, brwydfrydig, newydd i ymddangos o Gyrmu. Profiad o’r byd recordio rhyngwladol o Gymru i LA ac yn ol. Yn 2008 mynychodd Steffan y Musicians Institute, Los Angeles, lle bu’n astudio recordio a chynyrchu ar y cwrs RIT (Recording Institute of Technology). Cafodd Steffan y cyfle i ddysgu ei grefft o dan gyfarwyddid athrawon a pheirianwyr uchel eu parch o fewn i’r fusnes gerdd fyd eang. Pan nad oedd yn astudio sicrhaodd ei fod yn manteisio ar y cyfle o gyd weithio gyda pheirianydd amlwg a gafodd ei enwebu am wobrau niferus am ei waith gyda rhai o artistiaid mwya’r ganrif.







